Bydd amrywiaeth o sesiynau anabledd ar gael ledled Caerffili yn ystod gwyliau’r Pasg eleni, gan gynnig cyfleoedd hygyrch i blant a phobl ifanc fod yn egnïol, chwarae a chymdeithasu mewn amgylcheddau diogel a chefnogol.
Mae’r rhaglen yn cynnwys sesiynau nofio anabledd mewn canolfannau hamdden ledled y Fwrdeistref Sirol, yn ogystal â sesiwn chwarae anabledd yn y Ganolfan Sgiliau a Dysgu, Pontllan-fraith.
Bydd rhai sesiynau nofio yn cael eu cyflwyno fel nofio anabledd (sesiynau tawel), wedi’u cynllunio i ddarparu profiad mwy hamddenol gyda llai o sŵn a dim nodweddion ychwanegol y pwll ar waith. Mae’r sesiynau hyn yn addas i blant a phobl ifanc a fydd yn elwa ar amgylchedd tawelach, mwy hamddenol.
Mae’r sesiwn chwarae anabledd yn cynnig man cefnogol, dan arweiniad plant, lle mae plant yn gallu cymryd rhan ar eu cyflymder eu hunain. Mae’r sesiwn yn cael ei chyflwyno gan weithwyr chwarae profiadol, ac wedi’i chynllunio i fod yn gynhwysol ac yn groesawgar. Rhaid i rieni neu warcheidwaid aros drwy gydol y sesiynau. Mae’r sesiwn am ddim, a rhaid cadw lle drwy ddefnyddio ap Dull Byw Hamdden.
Noder, bydd pob canolfan hamdden ar gau ddydd Gwener y Groglith a dydd Llun Gŵyl y Banc. O ganlyniad, ni fydd sesiynau yn cael eu cynnal ar y dyddiau hyn, gan gynnwys y rhaglen weithgareddau arferol ar ddydd Llun a dydd Gwener.
Mae darparu cyfleoedd cynhwysol yn cefnogi Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol y Cyngor, yn helpu lleihau rhwystrau a sicrhau bod rhagor o blant a phobl ifanc yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau mewn ffordd sy’n addas iddyn nhw.
Ar gyfer sesiynau nofio anabledd a sesiynau nofio gwyliau’r ysgol ehangach, gweler yr amserlen lawn.