Rhyddhau 500 o leoedd ychwanegol ar gyfer ras 10 Cilomedr Caerffili ar ôl galw mawr

Cyhoeddwyd:31 Mawrth 2026

Mae 500 o leoedd ychwanegol wedi’u rhyddhau ar gyfer ras 10 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows ar ôl i’r dyraniad cychwynnol o leoedd rasio lenwi ar ôl galw mawr.

Mae’r ras ffordd boblogaidd, sy’n cael ei chynnal ddydd Sul 10 Mai, eisoes wedi gweld miloedd o bobl yn sicrhau eu lle ar y llinell gychwyn. Mae’r trefnwyr bellach yn agor rhagor o leoedd i roi cyfle i ragor o redwyr gymryd rhan.

Mae modd cofrestru ar gyfer cymryd rhan yn y digwyddiad eleni nawr yn www.caerphilly10k.co.uk

Eleni, bydd y ras yn cynnwys llwybr newydd drwy Gaerffili, wedi’i gynllunio i ddarparu profiad cyflymach sy’n llawn mwynhad i bawb, gan gynnwys y rhai sy’n anelu at gyflawni eu hamser gorau personol.

Mae’r digwyddiad yn cael ei gyflwyno gan Chwaraeon Caerffili ac mae’n cefnogi Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol 2019-29 y Cyngor, sy’n anelu at greu mwy o gyfleoedd i bobl o bob oed a gallu gymryd rhan mewn chwaraeon a digwyddiadau egnïol.

Mae disgwyl i’r lleoedd lenwi’n gyflym, felly rydyn ni’n eich annog chi i gofrestru ar gyfer eich lle cyn gynted â phosibl.