Rhagor o sesiynau wal ddringo adeg y Pasg ym Mhontllan-fraith

Cyhoeddwyd:20 Mawrth 2026

Bydd rhagor o sesiynau wal ddringo yn cael eu cynnal adeg y Pasg, yn y Ganolfan Sgiliau a Dysgu, Pontllan-fraith, gan roi rhagor o gyfleoedd i deuluoedd gymryd rhan.

Dyma un o’r ychydig weithgareddau yn ystod gwyliau’r ysgol lle mae modd i’r teulu cyfan gymryd rhan gyda’i gilydd. Mae’r sesiynau’n cynnig profiad egnïol i bawb dan sylw yn ystod gwyliau’r ysgol.

Yn dilyn diddordeb mawr yn y sesiynau cyntaf, yn gynharach eleni, mae Anturiaethau Caerffili wedi ehangu’r rhaglen yn ystod gwyliau’r Pasg, ac mae modd cadw lle ar-lein.

Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal ddydd Mawrth 31 Mawrth, dydd Mawrth 7 Ebrill a dydd Gwener 10 Ebrill, gyda phob diwrnod yn cynnwys sawl slot amser.

Bydd sesiwn yn costio £8.25 y pen, a bydd lle i hyd at wyth person ym mhob sesiwn i sicrhau profiad diogel ac o safon uchel.

Mae modd cadw lle ymlaen llaw drwy ddefnyddio ap Dull Byw Hamdden.

Rhaid bod yn 7 oed neu’n hŷn, a rhaid pwyso rhwng 10kg a 140kg. Bydd yr holl offer diogelwch arbenigol a harneisiau yn cael eu darparu.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Hamdden,
“Mae’n wych gweld y sesiynau hyn yn dychwelyd gyda rhagor o leoedd ar gael i deuluoedd. Mae’r wal ddringo eisoes yn boblogaidd, ac mae cynyddu nifer y sesiynau yn rhoi cyfle i ragor o bobl gymryd rhan a mwynhau rhywbeth gwahanol yn ystod gwyliau’r Pasg.”

Mae’r sesiynau yn rhan o ymrwymiad ehangach y Cyngor i gynyddu cyfleoedd i drigolion fod yn egnïol, yn unol â’r Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol.