Bydd amrywiaeth eang o weithgareddau yn cael eu cynnal ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili dros y Pasg eleni, gan roi digon o gyfleoedd i blant a theuluoedd gadw’n egnïol, cael hwyl a rhoi cynnig ar rywbeth newydd dros wyliau’r ysgol.
Wedi’i chyflwyno gan Dull Byw Hamdden, Chwaraeon Caerffili, Chwarae Caerffili ac Anturiaethau Caerffili, mae’r rhaglen yn cynnwys nofio, gwersylloedd chwaraeon, anturiaethau awyr agored a sesiynau chwarae cynhwysol.
Bydd Dull Byw Hamdden yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau nofio i deuluoedd eu mwynhau dros y Pasg eleni, gan gynnwys sesiynau teganau gwynt, sesiynau nofio llawn hwyl i’r teulu ac amserlenni gwyliau estynedig ym mhob canolfan hamdden.
Bydd cyrsiau nofio dwys hefyd ar gael yng Nghanolfan Hamdden Caerffili a Chanolfan Hamdden Trecelyn, gan helpu plant i fagu hyder a datblygu sgiliau allweddol yn y dŵr.
Mae amserlenni nofio llawn a manylion y cyrsiau ar gael yma.
Bydd Chwaraeon Caerffili yn cyflwyno cymysgedd o weithgareddau pêl-droed ac aml-chwaraeon i bobl ifanc dros y Pasg eleni.
Gwersylloedd Pêl-droed yn y Ganolfan Rhagoriaeth Chwaraeon – £13.90 y dydd (9am-3pm) | 7-12 oed
31 Mawrth (merched yn unig), 1 a 2 Ebrill, 7 a 8 Ebrill, 9 Ebrill (merched yn unig)
Cadwch le drwy ap Dull Byw Hamdden yma
Cynllun Chwaraeon y Pasg – £13.90 y dydd (9am-3pm) | 7-12 oed
Canolfannau Hamdden Caerffili, Heolddu, Trecelyn a Rhisga.
Dydd Llun 30 Mawrth – dydd Gwener 10 Ebrill
Cadwch le drwy ap Dull Byw Hamdden yma
Bydd Chwarae Caerffili yn dod â chyfleoedd chwarae llawn hwyl, am ddim, a chynhwysol i blant a theuluoedd eu mwynhau gyda’i gilydd dros y Pasg eleni.
Sesiwn Chwarae i Blant Anabl yn y Ganolfan Sgiliau a Dysgu, Pontllan-fraith – Am ddim | 4-17 oed
Dydd Iau 2 Ebrill – 10am–12pm
Cadwch le drwy ap Dull Byw Hamdden yma
Sesiwn Chwarae Teithiol – Canolfan Sgiliau a Dysgu, Pontllan-fraith
Am ddim | 4-12 oed
Dydd Iau 2 Ebrill – 1pm–2.30pm
Does dim angen cadw lle, galwch heibio.
Chwarae yn y Parc – Am ddim (11am-2pm) | Pob oedran
Dydd Llun 30 Mawrth – Parc Bargod
Dydd Mawrth 31 Mawrth – Parc Senghenydd
Dydd Mercher 1 Ebrill – Parc Waunfawr
Bydd Anturiaethau Caerffili yn darparu amrywiaeth o brofiadau dan do ac yn yr awyr agored i deuluoedd eu mwynhau.
Sesiynau wal ddringo yn y Ganolfan Sgiliau a Dysgu – £8.25 y pen | 7 oed neu’n hŷn
Nifer o amseroedd ar gael ddydd Mawrth 31 Mawrth, dydd Mawrth 7 Ebrill a dydd Gwener 10 Ebrill
Cadwch le drwy ap Dull Byw Hamdden yma
Diwrnodau Antur Iau yng Nghoedwig Cwmcarn – £34.60 y dydd (9am-3pm) | 7-12 oed:
Dydd Mawrth 7 Ebrill – dydd Gwener 10 Ebrill
Mae’r gweithgareddau’n cynnwys byw yn y gwyllt, teithiau cerdded antur, canŵio, a rhwyf-fyrddio.
Cadwch le drwy ap Dull Byw Hamdden yma
Mae rhaglen y Pasg yn rhan o ymrwymiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i gynyddu lefelau cyfranogi mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, gan ategu nodau’r Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol a helpu creu cymunedau iachach, mwy egnïol.
I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un neu ragor o weithgareddau’r Pasg eleni, cysylltwch â’r gwasanaeth perthnasol neu’r ganolfan hamdden yn uniongyrchol.