Mae’r cyfnod enwebu bellach ar agor ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Caerffili 2026, gan roi cyfle i drigolion gydnabod yr unigolion, clybiau a gwirfoddolwyr rhagorol sy’n gwneud gwahaniaeth drwy chwaraeon a gweithgarwch corfforol ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Mae’r gwobrau’n dathlu’r rhai sy’n ysbrydoli eraill drwy eu hymroddiad, eu hymrwymiad a’u cyflawniadau, ar y cae ac oddi ar y cae. Mae cyfnod enwebu ar agor tan 10pm ar 23 Medi.
Mae’r gwobrau sydd ar agor ar gyfer enwebiadau yn cynnwys Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn (Dan 18 oed), Gwirfoddolwr y Flwyddyn, Hyfforddwr Cynhwysol y Flwyddyn, Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn, Clwb y Flwyddyn, Cyflawniad Oes i Chwaraeon, Clwb Cymunedol y Flwyddyn a Hyfforddwr y Flwyddyn, gan gydnabod rhagoriaeth ar bob lefel o chwaraeon a gweithgarwch corfforol ledled y Fwrdeistref Sirol.
Mae’r gwobrau’n ategu nodau Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol 2019-2029, gan gydnabod y rôl bwysig y mae gwirfoddolwyr, hyfforddwyr a chlybiau cymunedol yn ei chwarae wrth greu cyfleoedd i bobl o bob oed fod yn egnïol.
Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal ar 20 Tachwedd yng Ngwesty Bryn Meadows, gan ddod â chymuned chwaraeon y Fwrdeistref Sirol at ei gilydd i ddathlu’r unigolion a’r clybiau rhagorol sy’n gwneud gwahaniaeth drwy chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Chwaraeon a Hamdden,
“Mae Gwobrau Chwaraeon Caerffili yn gyfle i ddathlu’r bobl sy’n gwneud chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn bosibl yn ein cymunedau. Yn cynnwys gwirfoddolwyr ymroddedig, hyfforddwyr ysbrydoledig a chlybiau ffyniannus, mae’r gwobrau hyn yn cydnabod y cyfraniad anhygoel maen nhw’n ei wneud bob dydd. Os ydych chi’n adnabod rhywun sy’n haeddu cydnabyddiaeth, byddwn i’n eich annog chi i gyflwyno enwebiad a’n helpu ni i ddathlu eu cyflawniadau.”
Mae modd cyflwyno enwebiadau drwy lenwi’r ffurflen enwebu neu drwy’r ffurflen enwebu drwy fideo newydd. Dylai’r rhai sy’n cyflwyno enwebiad fideo gludo dolen i’w fideo i’r ffurflen, yn ddelfrydol gan ddefnyddio dolen YouTube gyhoeddus neu heb ei restru, neu ddolen Dropbox.
Am ragor o wybodaeth, canllawiau enwebu neu i gyflwyno enwebiad, ewch i https://www.caerphillyleisurelifestyle.co.uk/cy/chwaraeon-caerffili/, ffonio 01443 863 402 neu e-bostio ChwaraeonCaerffili@caerffili.gov.uk.