Mae Chwaraeon Caerffili a Bocsio Cymru wedi cael eu cydnabod yng Ngwobrau Diwydiant Chwaraeon Cymdeithas Chwaraeon Cymru 2026 drwy ennill y Wobr am yr Arloesi Gorau am eu prosiect bocsio addasol realiti rhithwir (VR).
A hithau’n cael ei chyflwyno trwy ysgolion ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili, mae’r rhaglen yn defnyddio technoleg realiti rhithwir i wneud bocsio yn fwy hygyrch a chynhwysol, gan helpu cael gwared ar rwystrau sy’n atal pobl rhag cymryd rhan a chreu cyfleoedd i fwy o bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol.
Mae’r prosiect yn ategu nodau Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol 2019–2029 y Cyngor, drwy gynyddu lefelau cymryd rhan a sicrhau bod cyfleoedd i fod yn egnïol yn hygyrch i bawb.
Mae’r rhaglen arloesol yn darparu cyflwyniad diogel, diddorol ac addasadwy i focsio, gan alluogi pobl ifanc o bob gallu i brofi buddion corfforol a lles y gamp.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Chwaraeon a Hamdden,
“Wrth wraidd y prosiect hwn mae rhoi mwy o gyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn chwaraeon. Drwy weithio gyda Bocsio Cymru a defnyddio technoleg arloesol, rydyn ni’n helpu disgyblion ledled y Fwrdeistref Sirol i gael profiad o focsio mewn ffordd ddiddorol, hygyrch a chynhwysol.”
Dyma’r ail Wobr am yr Arloesi Gorau yn olynol i Chwaraeon Caerffili, yn dilyn llwyddiant y llynedd am gyflwyno SWIMTAG ar draws canolfannau hamdden y Fwrdeistref Sirol.
Mynnwch ragor o wybodaeth am y prosiect bocsio addasol realiti rhithwir (VR) arobryn a sut mae’n helpu gwneud chwaraeon yn fwy hygyrch ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili.