400 o ddisgyblion yn cymryd rhan yng Ngŵyl Rygbi Anabledd y Chwe Gwlad yn y Ganolfan Rhagoriaeth Chwaraeon

Cyhoeddwyd:20 Mawrth 2026

Daeth mwy na 400 o blant o 16 o ysgolion at ei gilydd yn y Ganolfan Rhagoriaeth Chwaraeon yn Ystrad Mynach ar gyfer gŵyl fywiog Anabledd y Chwe Gwlad, gan ddathlu cyfleoedd cynhwysol a hygyrch i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Roedd pob ysgol yn cynrychioli un o dimau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, gan greu awyrgylch lliwgar wrth i ddisgyblion gymryd rhan drwy gydol y dydd mewn amrywiaeth o weithgareddau rygbi wedi’u haddasu.

Cafodd y digwyddiad ei gyflwyno mewn partneriaeth â’r Dreigiau, Cymuned y Dreigiau, Undeb Rygbi Cymru a Chlwb Rygbi Bargod, gyda chymorth ychwanegol gan y noddwyr Phyllyp Butler, AGM Embroidery, y cwmni Teaching Personnel, ac Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae’r Drindod.

Cafodd prydau bwyd eu darparu ar gyfer yr ysgolion, gan helpu creu profiad llawn o’r ŵyl i ddisgyblion a gymerodd ran.

Er mwyn cydnabod y brwdfrydedd a’r ymdrech mae’r ysgolion wedi’u dangos, bydd Cymuned y Dreigiau hefyd yn rhoi hyd at 60 o docynnau gêm i’r ysgol a ddangosodd yr ymgysylltiad mwyaf wrth gynrychioli’r wlad a gafodd ei dyrannu iddi.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Hamdden, “Roedd yn wych gweld cynifer o bobl ifanc yn cynrychioli eu hysgolion a’u gwledydd. Mae digwyddiadau fel hyn yn helpu creu cyfleoedd cynhwysol a hygyrch i blant fwynhau chwaraeon a bod yn egnïol.”

Mae’r ŵyl yn ategu uchelgeisiau Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol 2019–2029, sy’n anelu at gynyddu cyfleoedd i bobl ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.