Trefniadau llogi gan glybiau – telerau ac amodau

Trefniadau llogi gan glybiau – telerau ac amodau

  1. Ar ôl cadarnhau trefniant llogi yn ysgrifenedig, rhaid talu amdano’n llawn.
  2. Os bydd angen canslo unrhyw sesiwn, rhaid gwneud hynny’n ysgrifenedig bythefnos ymlaen llaw, er mwyn trefnu i’r cyfleuster fod ar gael i ddefnyddwyr achlysurol. Os na fydd hysbysiad ysgrifenedig yn dod i law, ac na fydd Ganolfan yn gallu gwneud trefniadau llogi eraill ar gyfer y cyfleuster, bydd disgwyl i’r llogwr dalu’r ffi lawn.
  3. Bydd y Ganolfan yn rhoi gwybod i’r llogwr yn ysgrifenedig, ymlaen llaw, am unrhyw achos pan fydd angen canslo trefniant llogi er mwyn cynnal digwyddiad arbennig.
  4. Bydd y Ganolfan yn osgoi canslo trefniadau llogi ar fyr rybudd, pryd bynnag y bo hynny’n bosibl, a dim ond oherwydd tywydd garw neu ddigwyddiadau eraill y tu hwnt i’w rheolaeth y bydd yn gwneud hynny.
  5. Rhaid i bob Clwb sy’n cynnig gweithgareddau dan arweiniad hyfforddwr sicrhau bod yr hyfforddwyr yn gymwys yn unol â safonau’r Corff Llywodraethu Cenedlaethol.
  6. Os bydd trefniant llogi yn cael ei ganslo ar fyr rybudd, bydd y Ganolfan yn ceisio cysylltu ag ysgrifennydd y Clwb neu swyddog enwebedig arall. Rhaid i’r Clwb sicrhau bod gan y Ganolfan y rhifau ffôn diweddaraf.
  7. Mae rheolwr y Ganolfan yn cadw’r hawl i ganslo unrhyw drefniant llogi heb roi rhybudd ymlaen llaw.
  8. Mae disgwyl gwisg, offer ac ymddygiad priodol yn achos holl aelodau’r Clwb.
  9. Dim gwisgo esgidiau hoeliog nac esgidiau â gwadnau du yn y neuadd chwaraeon.
  10. Dim bwyta nac yfed yn y cyfleuster.
  11. Dim gwm cnoi yn y ganolfan hamdden nac ar y cae.
  12. Rhaid i bob plentyn dan 8 oed yn yr adeilad fod yng nghwmni oedolyn dros 16 oed ar bob adeg. Rhaid i’r person hwn beidio â gadael y safle yn ystod y gweithgaredd y mae’r plentyn yn cymryd rhan ynddo.
  13. Mae’r trefniadau llogi ar gyfer cyfnod o 55 munud, a rhaid i bawb adael y man chwarae yn brydlon ar ôl i gyfnod y trefniant llogi ddod i ben.
  14. Dim ond ardaloedd parcio dynodedig sydd i’w defnyddio ar gyfer parcio ceir a beiciau modur, ac nid unrhyw fannau glaswelltog.
  15. Stiwdio ddawns – Ni chaiff neb fynd i’r ardal hon heb fod tiwtor dosbarth yn bresennol. Nid yw’r ardal hon yn addas ar gyfer gweithgareddau chwaraeon cyffredinol.
  16. Rhaid talu am bob slot achlysurol o leiaf bum munud cyn i’r trefniant llogi ddechrau er mwyn caniatáu i’r staff baratoi’r neuadd – os bydd y llogwr yn talu’n hwyr, ni fydd yn golygu cael slot 55 munud llawn.
  17. Rhaid peidio â defnyddio offer ysgol, fel matiau llawr, yn y cyfleuster.
  18. Rhaid i bob cwsmer sicrhau nad yw’n cyffwrdd ag unrhyw offer weindio pêl-fasged neu gaead rholio yn y neuadd chwaraeon.
  19. Rhaid talu am bob slot achlysurol o leiaf 10 munud cyn i’r trefniant llogi ddechrau er mwyn caniatáu i’r staff baratoi ardal y gweithgaredd.

Trefniadau llogi caeau 3G/AstroTurf – telerau ac amodau

Rydyn ni eisiau atgoffa pob llogwr mai eu cyfrifoldeb nhw yw sicrhau cadw at y rheoliadau isod, fel arall, byddwn ni’n dod â’r trefniant llogi i ben.

Mae’r esgidiau canlynol yn cael eu caniatáu ar y cae 3G:

  • Esgidiau â stydiau rwber, crwn, wedi’u mowldio (stydiau ¼ modfedd yn unig)
  • Esgidiau ymarfer AstroTurf
  • Esgidiau ymarfer

Nid yw’r esgidiau canlynol yn cael eu caniatáu ar y cae 3G:

  • Esgidiau â stydiau metel (stydiau sgriwio metel na llafnau metel)
  • Nid yw esgidiau â llafnau rwber wedi’u siapio yn cael eu caniatáu oherwydd siâp y llafnau rwber
  • Rhaid i’r esgidiau fod yn lân

Rheolau defnyddio eraill:

  • Dim siglo yn ôl ac ymlaen ar byst gôl, na’u camddefnyddio nhw
  • Dim ysmygu
  • Dim cŵn
  • Rhowch sbwriel yn y biniau
  • Dim gwrthrychau trwm na miniog
  • Dim beiciau ac ati
  • Sicrhewch nad oes mwd, malurion, chwyn na mwsogl ar yr wyneb
Hysbysiad Preifatrwydd