Polisi ad-dalu – Gwasanaethau Chwaraeon a Hamdden, CBSC

Aelodaeth trwy ddebyd uniongyrchol: Cyfrifoldeb yr aelodau yw sicrhau bod y Tîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid yn cael gwybod am ganslo aelodaeth a bod y taliad debyd uniongyrchol yn cael ei ganslo drwy eu banc neu gymdeithas adeiladu er mwyn gwarantu canslo aelodaeth. Mewn achosion lle nad yw hyn wedi’i wneud, ni fydd yr arian yn cael ei ad-dalu.

Aelodaeth trwy dalu ag arian parod yn fisol: Mae ein gwasanaethau ni wedi’u lleoli ar draws 10 cyfleuster ac, felly, mae modd defnyddio aelodaeth ym mhob un o’n 10 Canolfan Hamdden. Felly, dim ond pan fydd Gwasanaethau Chwaraeon a Hamdden y Cyngor wedi cau pob cyfleuster ar unrhyw un adeg y bydd modd prosesu ad-daliad.

Gwersi nofio trwy ddebyd uniongyrchol: Pan fydd Gwasanaethau Chwaraeon a Hamdden y Cyngor wedi gorfod canslo gwers, byddwn ni’n addasu eich taliad debyd uniongyrchol yn ôl cost y wers erbyn y mis canlynol ar ôl canslo’r trefniant. Dim ond pan fydd disgybl, wedi’i gofrestru ar y cwrs, wedi methu tair gwers yn olynol ac wedi darparu tystysgrif feddygol y bydd modd prosesu ad-daliad.

Gwersi nofio trwy dalu ag arian parod mewn blociau: Pan fydd Gwasanaethau Chwaraeon a Hamdden y Cyngor wedi gorfod canslo gwers, bydd unrhyw sesiynau wedi’u methu yn cael eu trosglwyddo yn awtomatig ar gyfrif y disgybl.

Trefniadau bloclogi: Dim ond pan fydd Gwasanaethau Chwaraeon a Hamdden y Cyngor wedi canslo dosbarth, canslo sesiwn a/neu gau cyfleuster y bydd modd prosesu ad-daliad.

Partïon pen-blwydd: Byddwch chi’n cael gofyn am ad-daliad llawn o fewn 14 diwrnod ar ôl gwneud trefniant llogi; ar ôl y dyddiad hwnnw, dim ond pan fydd Gwasanaethau Chwaraeon a Hamdden y Cyngor wedi canslo’r trefniant a/neu gau cyfleuster y bydd modd prosesu ad-daliad.

Dosbarth ymarfer corff/Sesiwn nofio/Sesiwn yn y gampfa: Dim ond pan fydd Gwasanaethau Chwaraeon a Hamdden y Cyngor wedi canslo dosbarth, canslo sesiwn a/neu gau cyfleuster y bydd modd prosesu ad-daliad.

 

I gael ad-daliad am weithgareddau, cyrsiau a digwyddiadau yn y gorffennol, rhaid gwneud cais drwy anfon e-bost i hamdden@caerffili.gov.uk

O ran taliadau drwy gerdyn debyd/cerdyn wedi’u gwneud yn y Ganolfan Hamdden o fewn y 90 diwrnod diwethaf, rhaid ad-dalu’r arian i’r cerdyn debyd/credyd gwreiddiol a gafodd ei ddefnyddio i wneud y taliad gwreiddiol. Bydd modd gwneud hyn naill ai’n bersonol neu drwy ffonio’r Ganolfan Hamdden yn uniongyrchol.

I gael ad-daliad yn achos taliadau ar-lein drwy’r we neu’r ap, rhaid gwneud cais drwy anfon e-bost i hamdden@caerffili.gov.uk