Telerau ac amodau Gwasanaethau Chwaraeon a Hamdden Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili – Cynlluniau talu misol Dull Byw Hamdden drwy ddebyd uniongyrchol neu gan ddefnyddio arian parod

Telerau ac amodau Gwasanaethau Chwaraeon a Hamdden Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili – Cynlluniau talu misol Dull Byw Hamdden drwy ddebyd uniongyrchol neu gan ddefnyddio arian parod

  1. Rydyn ni’n cynnig nifer o becynnau aelodaeth Dull Byw Hamdden sy’n rhoi mynediad i chi at y gweithgareddau canlynol:
  • Actif Plws: Campfa, nofio, dosbarthiadau, chwaraeon raced, ystafelloedd iechyd
  • Nofio Actif: Gweithgareddau nofio a phwll nofio, e.e. aerobeg dŵr
  • Plant Plws: Campfa, nofio, dosbarthiadau (hyd at 16 oed)
  • Dysgu i Nofio: Gwersi nofio

Mae aelodaeth iau ar gael i unigolion 0-17 oed gyda’r cyfyngiadau oedran canlynol: Pan fydd aelod iau yn troi’n 18 oed, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cadw’r hawl i uwchraddio’r aelodaeth yn awtomatig i’r gyfradd aelodaeth oedolion oni bai bod y Tîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid wedi derbyn cais i ganslo’r aelodaeth.

  1. Bydd pob aelod sy’n ymgymryd ag un neu ragor o’r dewisiadau aelodaeth uchod yn cael Cerdyn Smart am ddim yn awtomatig a mynediad at fuddion yn ddarostyngedig i feini prawf.
  2. Mae rhaid i bob aelod Dull Byw Hamdden ddarparu ffotograff er mwyn atal camddefnyddio’r buddion o dan y meini prawf aelodaeth.
  3. Mae amnewid cardiau coll neu wedi’u dwyn yn costio £2 ac mae’n daladwy ymlaen llaw drwy ffonio’r Tîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid.
  4. Rhaid i chi roi gwybod i ni os ydych chi’n symud cartref neu os yw eich amgylchiadau chi’n newid o ran eich hawl i gonsesiynau.
  5. Rhaid i chi roi gwybod i ni os yw’ch enw neu’ch manylion cyswllt fel cyfeiriad, rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost yn newid.
  6. Dim ond y person y mae’r Cerdyn Smart wedi cael ei ddyrannu iddo sy’n gallu defnyddio’r cerdyn. Bydd methu â chyflwyno’r cerdyn wrth i chi drefnu defnyddio cyfleusterau yn golygu y bydd yn rhaid i chi dalu’r pris llawn i gael mynediad at weithgareddau.
  7. Debyd uniongyrchol misol – Mae gan bob aelod sy’n talu drwy ddebyd uniongyrchol aelodaeth ar gyfer pob mis sy’n cael ei dalu amdano ymlaen llaw. Ni waeth pa ddiwrnod o’r mis yr ymunwch chi, rhaid i chi dalu taliad pro rata unwaith ac am byth ymlaen llaw gydag arian parod neu gerdyn credyd/debyd. Bydd y taliad pro rata hwn yn cynnwys defnyddio’r cyfleusterau tan eich taliad debyd uniongyrchol cyntaf. Bydd yr holl daliadau dilynol yn cael eu casglu o’ch cyfrif drwy ddebyd uniongyrchol ar ddiwrnod gwaith cyntaf pob mis. Pan fydd y diwrnod cyntaf yn disgyn ar benwythnos/Gŵyl Banc, bydd eich taliad debyd uniongyrchol yn cael ei gasglu ar y diwrnod gwaith nesaf ar ôl hynny. Gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ddewis newid y cyfraddau aelodaeth misol ar unrhyw adeg; byddwch chi’n cael rhybudd ysgrifenedig am unrhyw newid o leiaf 10 diwrnod gwaith ymlaen llaw.

Os nad ydyn ni’n cael eich taliad debyd uniongyrchol ar y cais cyntaf, byddwn ni’n ychwanegu’r swm sy’n ddyledus at eich cyfrif Dull Byw Hamdden. Byddwch chi’n gallu diweddaru’ch cyfrif yn un o’n Canolfannau Hamdden, gan fewngofnodi ar-lein i’ch cyfrif yn https://leisurelifestylebookings.caerphilly.gov.uk/Connect/MRMLogin.aspx neu drwy gysylltu â’n Tîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid ar 01443 863072. Mae’n rhaid i chi wneud taliadau debyd uniongyrchol ar ddiwrnod gwaith cyntaf pob mis waeth beth nad ydych chi’n bresennol, ac eithrio pan mae’r telerau canslo yn cael eu bodloni.  Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cadw’r hawl i dynnu mynediad at gyfleusterau yn ôl os yw’r aelod mewn ôl-ddyledion o ran ei daliadau debyd uniongyrchol.

  1. Os bydd eich manylion personol yn newid, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn ni newid ein cofnodion yn unol â hynny. Bydd y manylion sydd gennym ni amdanoch chi yn cael eu defnyddio i gyfathrebu â chi mewn perthynas â’ch aelodaeth chi. Nid ydyn ni’n cymryd unrhyw gyfrifoldeb os ydych chi’n methu â diweddaru eich manylion cyswllt ac nid ydych chi’n cael hysbysiadau gwasanaeth perthnasol oherwydd hynny.
  2. Cyfrifoldeb yr aelodau yw sicrhau bod y Tîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid yn cael gwybod am ganslo aelodaeth a bod y taliad debyd uniongyrchol yn cael ei ganslo drwy eu banc neu gymdeithas adeiladu er mwyn gwarantu canslo aelodaeth. Os nad ydych chi’n gwneud hyn, ni chaiff ad-dalu taliadau sy’n cael eu cymryd.