POLISI MYNEDIAD I’R PWLL NOFIO

Rhaid i nofwyr sydd angen rhwymynnau breichiau neu siacedi nofio aros ym mhen bas y pwll. Mae nofwyr yn gallu defnyddio pen dwfn y pwll os gallant nhw nofio dau hyd (50m) gan ddefnyddio strôc gydnabyddedig (nofio yn eu blaen neu nofio ar y frest ond nid y dull cefn neu nofio ci), ni waeth a oes nofiwr cymwys gyda nhw ai peidio.

Os yw’ch sgiliau nofio yn ymddangos yn wan i’r achubwr bywyd ar ddyletswydd, bydd gofyn i chi gwblhau prawf nofio.

Polisi ar gyfer pob pwll nofio (ac eithrio pwll Trecelyn) 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ymdrechu i ddarparu’r amodau nofio mwyaf diogel posibl yn ei gyfleusterau. Felly, rydyn ni’n dilyn yr argymhellion cenedlaethol y Gymdeithas Nofio Amatur (ASA), Cymdeithas Athrawon Nofio (STA), Sefydliad Rheoli Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol (IMSPA) a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE), sy’n nodi:

Dan 8 oed

Rhaid i unrhyw blentyn o dan 8 oed gael eu goruchwylio gan oedolyn cyfrifol (rhaid bod yn 16 oed o leiaf) mewn cymhareb o 1 oedolyn i 2 o blant.

Dan 5 oed

Rhaid gwisgo cymhorthion diogelwch priodol, e.e. rhwymynnau breichiau neu siacedi nofio.

Dan 3 oed

Rhaid i bob plentyn o dan 3 oed ddilyn ein system cewynnau dwbl yn ein pyllau nofio, sy’n golygu gwisgo cewyn nofio papur (tafladwy neu y gellir ei ailddefnyddio) oddi tan gewyn neoprene cymeradwy sydd ar gael i’w brynu ym mhob canolfan – gofynnwch yn y dderbynfa.   Polisi Cewynnau Nofio

Babanod dan 2 oed

Rhaid gwisgo cymhorthion arnofio sydd ar gael i’w fenthyg yn rhad ac am ddim ar ochr y pwll.

Mae angen i fabanod fod yn 3 mis oed o leiaf a dylen nhw gael eu set lawn o imiwneiddiadau, ond mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cydnabod mai yn ôl disgresiwn rhieni yw hyn. Mae angen i fabanod o dan flwydd oed fod mewn ‘goruchwyliaeth gyffwrdd’ gyson ar sail un i un.

Polisi ar gyfer pwll nofio Trecelyn

Er budd diogelwch eich plentyn, rydyn ni’n gweithredu polisi cyfyngiad oedran ar gyfer y pwll nofio. Cafodd y polisi hwn ei ddatblygu gan ddefnyddio Rheoliadau Sir a chanllawiau’r Sefydliad Rheoli Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol (IMSPA).

Rhaid i blant dan 8 oed gael eu goruchwylio gan berson cyfrifol (rhaid bod yn 16 oed o leiaf).

Gall un person cyfrifol oruchwylio dau blentyn dan 8 oed, ar yr amod bod y ddau blentyn dros 5 oed.

Rhaid goruchwylio plant 4 oed ac iau yn gyson ar sail un i un.

Mae angen i fabanod fod yn 3 mis oed o leiaf a chael eu set lawn o imiwneiddiadau. Mae angen i fabanod o dan flwydd oed fod mewn ‘goruchwyliaeth gyffwrdd’ gyson ar sail un i un.

Nid yw mynediad yn cael ei ganiatáu yn ystod 30 munud olaf y sesiwn.

Noder: efallai y bydd gofyn i bobl sydd â gofal plant sy’n ymddangos o dan 16 oed gyflwyno prawf oedran cyn cael eu derbyn i’r pwll.

Pwrpas y polisi derbyn

Mae angen polisi derbyn oherwydd ni all achubwyr bywyd fyth ddisodli’r gofal a’r sylw y mae rhiant neu warcheidwad yn eu darparu. Pwrpas y polisi derbyn plant yw diogelu plant sy’n defnyddio ein pyllau nofio. Nid yw’n bwriadu atal plant rhag cael hwyl a mwynhau’r buddion sy’n gysylltiedig â nofio. Nid yw’n bwriadu gwneud bywyd yn anodd i rieni neu warcheidwaid ychwaith.