Cynnydd mewn prisiau ar y gweill i gynnal a gwella gwasanaethau hamdden

Fel rhan o’n hymrwymiad i gynnal cyfleusterau a gwasanaethau o ansawdd uchel, bydd Dull Byw Hamdden yn cynyddu prisiau ar draws yr holl wasanaethau chwaraeon a hamdden. Bydd hyn yn dod i rym ar 1 Ebrill, 2025.

Yn sgil y costau gweithredu cynyddol a’r heriau ariannol sylweddol sy’n wynebu Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, gan gynnwys diffyg rhagamcanol o £45 miliwn yn y gyllideb dros y tair blynedd nesaf, byddwn ni’n cyflwyno newidiadau i’n strwythur prisio. Bydd y cynnydd hwn yn amrywio yn dibynnu ar y gwasanaeth, a bydd yn effeithio ar bob agwedd ar ein darpariaeth, gan gynnwys aelodaeth, rhaglenni dysgu nofio, gwersylloedd chwaraeon, a llogi cyfleusterau.

Rydyn ni’n parhau i fod yn ymroddedig i’n gweledigaeth o annog ffyrdd iach o fyw, gan sicrhau bod ein trigolion yn parhau i elwa ar gyfleoedd o ansawdd uchel sy’n rhoi gwerth am arian i gadw’n heini ac yn frwdfrydig.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Hamdden:

“Mae’r cynnydd hwn yn hanfodol i sicrhau ein bod ni’n gallu parhau i ddarparu gwasanaethau chwaraeon a hamdden o ansawdd uchel i drigolion ledled y Fwrdeistref Sirol. Rydyn ni wedi ymrwymo i ailfuddsoddi yn ein cyfleusterau, gan ddarparu cyfleoedd i bobl o bob oed aros yn heini, a sicrhau bod ein gwasanaethau yn parhau i fod yn hygyrch ac yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.”

Bydd y cynnydd angenrheidiol hwn yn caniatáu Dull Byw Hamdden i ailfuddsoddi yn ein cyfleusterau a hyrwyddo ein nod o gael mwy o bobl, yn fwy egnïol, yn fwy aml, yn unol â’n Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol. Ein gweledigaeth yw annog ffyrdd iach o fyw a chynorthwyo ein preswylwyr i fyw bywydau egnïol, trwy ddarparu cyfleoedd amrywiol, deniadol a hygyrch.

Rydyn ni’n gwerthfawrogi cefnogaeth barhaus ein haelodau a’r gymuned yn fawr. Mae eich ymrwymiad chi’n ein helpu ni i gynnal a gwella’r gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu, gan sicrhau ein bod ni’n gallu diwallu anghenion pawb sy’n defnyddio ein cyfleusterau.