Cadw lle
Mae pob un o’n Canolfannau Hamdden yn cadw lle ar sail achlysurol neu floclogi.
Cadw lle’n achlysurol
Er mwyn cadw lle’n achlysurol, mae croeso i gwsmeriaid gadw lle hyd at saith diwrnod ymlaen llaw. Cysylltwch â’ch canolfan hamdden leol i gadw lle’n achlysurol.
Cadw lle ar-lein
Gall deiliaid cerdyn smart arbed amser ac osgoi ciwio trwy ddefnyddio ein gwasanaeth cadw lle ar-lein. Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen cadw lle ar-lein Dull Byw Hamdden neu ddefnyddio’r ap Leisure Lifestyle.
Peidiwch â chadw lle ar gyfer dau ddosbarth o’r un fath un ar ôl y llall, e.e. Peidiwch â chadw lle ar gyfer Beicio Mewn Grŵp am 6.20am a 7.15am ar fore Mawrth yng Nghanolfan Hamdden Caerffili. Dewiswch un yn unig.
Bloclogi
Mae modd i gwsmeriaid sydd am floclogi cyfleusterau wneud cais am hynny am gyfnodau yn fwy na 10 wythnos. Mae bloclogi ar gael o fis Ionawr i fis Ebrill, o fis Ebrill i fis Gorffennaf ac o fis Medi i fis Rhagfyr. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bloclogi ein cyfleusterau, cysylltwch â’ch canolfan hamdden leol neu lenwi ein ffurflen cadw lle rhyngweithiol ar-lein.
Trefnu parti i blant
Eisteddwch yn ôl ac ymlacio a gadael i ni gymryd y straen allan o drefnu parti i’ch plentyn. Rydyn ni’n cynnig gweithgareddau sy’n addas i bob oedran, gan gynnwys castell neidio, pêl-droed pump-bob-ochr, nofio neu deganau gwynt yn y pwll. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r ganolfan hamdden leol.
Trefnu digwyddiad arbennig
Beth bynnag sydd gennych mewn golwg – twrnameintiau chwaraeon, arddangosfeydd neu gyngherddau, fe welwch chi fod gennym ni lawer i’w gynnig. Gallwn ni ddarparu byrddau, cadeiriau, unedau llwyfan ac amrywiaeth eang o offer chwaraeon ar gyfer twrnameintiau chwaraeon. Cysylltwch â’ch canolfan hamdden leol neu lenwi ein ffurflen cadw lle rhyngweithiol ar-lein.
Cyrtiau Tennis
Mae gennym ni 6 chyfleuster tennis gwych ym Mwrdeistref Sirol Caerffili i chi ddewis ohonyn nhw.