Mae Canolfan Hamdden Pontllan-fraith yn cael ei defnyddio ar hyn o bryd fel Canolfan Brechu Torfol. Eich canolfan agosaf gyda phwll nofio, ystafell ffitrwydd, ystafell iechyd a dosbarthiadau ymarfer corff yw Canolfan Hamdden Trecelyn.

Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon cyn gynted ag y bydd y ganolfan ar gael eto.

Canolfan Hamdden Pontllan-fraith

Tel  01443 863376
Email  lcpont@caerffili.gov.uk
Location  Canolfan Hamdden Pontllanfraith, Coed Cae Ddu Road, Pontllanfraith, Blackwood NP12 2DA

Pethau i'w gwneud yn Canolfan Hamdden Pontllan-fraith

Ein cyfleusterau

  • Cyrtiau sboncen - Dau gwrt sboncen gydag oriel gwylwyr. Ar gael i’w llogi am gyfnodau o 45 munud.
  • Neuadd chwaraeon - Neuadd chwaraeon amlbwrpas â 5 cwrt y gellir ei defnyddio ar gyfer badminton, pêl-fasged, pêl-droed pump bob ochr, pêl-rwyd, pêl foli ac amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon eraill. Mae’r neuadd chwaraeon hefyd ar gael ar gyfer digwyddiadau arbennig fel cyngherddau, dawnsfeydd, arddangosfeydd, ciniawau a chynadleddau.
  • Stiwdio ddawns – Dewch i roi cynnig ar rywbeth newydd! Mae llawer o ddosbarthiadau i ddewis o’u plith bob wythnos. Mae hefyd ar gael i’w logi’n breifat.
  • Cae pob tywydd trydedd genhedlaeth – Wyneb hyfforddiant pob tywydd amlbwrpas sy’n ddelfrydol ar gyfer pêl-droed, rygbi, criced, hoci ac amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon eraill. Mae’r cae trydedd genhedlaeth wedi cael ei gymeradwyo’n llawn gan Gymdeithas Pêl-droed Cymru hyd at lefel Cynghrair Cymru.
  • Ystafell ffitrwydd - Amrywiaeth fawr o gyfarpar ymarfer corff. P’un a ydych chi eisiau tynhau’r corff, colli pwysau, magu cryfder neu gynyddu stamina, gallwn helpu.
  • Parcio ceir am ddim – gan gynnwys mannau parcio penodol i bobl anabl.

Sut i ddod o hyd i Canolfan Hamdden Pontllan-fraith