Trefniadau llogi gan glybiau – telerau ac amodau
Archebu a Thalu
- Ar ôl cadarnhau trefniant llogi yn ysgrifenedig, rhaid talu amdano’n llawn.
- Er mwyn sicrhau cadw lle bob wythnos yn rheolaidd, rhaid i chi ymrwymo i o leiaf 10 wythnos. Bydd y taliadau ar gyfer y sesiynau hyn yn cael eu codi trwy anfoneb fisol i’r cyswllt a restrir ar y ffurflen archebu.
- Gallwch chi dalu am le ar y diwrnod dim ond o wythnos i wythnos, hyd at 7 diwrnod ymlaen llaw.
- Mae archebion rheolaidd yn cael blaenoriaeth dros sesiynau Talu ar y Dydd a gall argaeledd amrywio yn dibynnu ar ymrwymiadau presennol.
- Rhaid talu am bob slot achlysurol o leiaf 10 munud cyn i’r archeb ddechrau er mwyn caniatáu i staff sefydlu’r ardal archebu gweithgareddau.
- Ni fydd talu’n hwyr am slotiau achlysurol yn arwain at ychwanegu amser ychwanegol at y sesiwn safonol o 55 munud.
Cansladau
- Os bydd angen canslo unrhyw sesiwn, rhaid gwneud hynny’n ysgrifenedig bythefnos ymlaen llaw, er mwyn trefnu i’r cyfleuster fod ar gael i ddefnyddwyr achlysurol.
- Os na fydd hysbysiad ysgrifenedig yn dod i law, ac na fydd Ganolfan yn gallu gwneud trefniadau llogi eraill ar gyfer y cyfleuster, bydd disgwyl i’r llogwr dalu’r ffi lawn.
- Bydd y Ganolfan yn rhoi gwybod i’r llogwr yn ysgrifenedig, ymlaen llaw, am unrhyw achos pan fydd angen canslo trefniant llogi er mwyn cynnal digwyddiad arbennig.
- Bydd y Ganolfan yn osgoi canslo trefniadau llogi ar fyr rybudd, pryd bynnag y bo hynny’n bosibl, a dim ond oherwydd tywydd garw neu ddigwyddiadau eraill y tu hwnt i’w rheolaeth y bydd yn gwneud hynny.
- Os bydd trefniant llogi yn cael ei ganslo ar fyr rybudd, bydd y Ganolfan yn ceisio cysylltu ag ysgrifennydd y Clwb neu swyddog enwebedig arall. Rhaid i’r Clwb sicrhau bod gan y Ganolfan y rhifau ffôn diweddaraf.
- Mae rheolwr y Ganolfan yn cadw’r hawl i ganslo unrhyw drefniant llogi heb roi rhybudd ymlaen llaw.
Hyfforddi a Goruchwyliaeth
- Rhaid i bob Clwb sy’n cynnig gweithgareddau dan arweiniad hyfforddwr sicrhau bod yr hyfforddwyr yn gymwys yn unol â safonau’r Corff Llywodraethu Cenedlaethol.
- Rhaid i bob plentyn dan 8 oed yn yr adeilad fod yng nghwmni oedolyn dros 16 oed ar bob adeg. Rhaid i’r person hwn beidio â gadael y safle yn ystod y gweithgaredd y mae’r plentyn yn cymryd rhan ynddo.
Defnydd o Gyfleusterau
- Mae’r trefniadau llogi ar gyfer cyfnod o 55 munud, a rhaid i bawb adael y man chwarae yn brydlon ar ôl i gyfnod y trefniant llogi ddod i ben.
- Mae disgwyl gwisg, offer ac ymddygiad priodol yn achos holl aelodau’r Clwb.
- Dim gwisgo esgidiau hoeliog nac esgidiau â gwadnau du yn y neuadd chwaraeon.
- Ni chaniateir bwyd, diod na gwm cnoi o fewn adeilad y ganolfan hamdden, ardaloedd y cyfleusterau na’r ardaloedd lleiniau.
- Dim ond mannau parcio dynodedig y dylid eu defnyddio – ni chaniateir parcio ar ardaloedd glaswelltog.
- Stiwdio ddawns – Ni chaiff neb fynd i’r ardal hon heb fod tiwtor dosbarth yn bresennol. Nid yw’r ardal hon yn addas ar gyfer gweithgareddau chwaraeon cyffredinol.
- Rhaid peidio â defnyddio offer ysgol, fel matiau llawr, yn y cyfleuster.
- Rhaid i bob cwsmer sicrhau nad yw’n cyffwrdd ag unrhyw offer weindio pêl-fasged neu gaead rholio yn y neuadd chwaraeon.
Trefniadau llogi caeau 3G/AstroTurf – telerau ac amodau
Rydyn ni eisiau atgoffa pob llogwr mai eu cyfrifoldeb nhw yw sicrhau cadw at y rheoliadau isod, fel arall, byddwn ni’n dod â’r trefniant llogi i ben.
Mae’r esgidiau canlynol yn cael eu caniatáu ar y cae 3G:
- Esgidiau â stydiau rwber, crwn, wedi’u mowldio (stydiau ¼ modfedd yn unig)
- Esgidiau ymarfer AstroTurf
- Esgidiau ymarfer
Nid yw’r esgidiau canlynol yn cael eu caniatáu ar y cae 3G:
- Esgidiau â stydiau metel (stydiau sgriwio metel na llafnau metel)
- Nid yw esgidiau â llafnau rwber wedi’u siapio yn cael eu caniatáu oherwydd siâp y llafnau rwber
- Rhaid i’r esgidiau fod yn lân
Rheolau defnyddio eraill:
- Dim siglo yn ôl ac ymlaen ar byst gôl, na’u camddefnyddio nhw
- Dim ysmygu
- Dim cŵn
- Rhowch sbwriel yn y biniau
- Dim gwrthrychau trwm na miniog
- Dim beiciau ac ati
- Sicrhewch nad oes mwd, malurion, chwyn na mwsogl ar yr wyneb
Hysbysiad Preifatrwydd


