Bydd pwll nofio Canolfan Hamdden Trecelyn yn ailagor ddydd Gwener 24 Gorffennaf yn dilyn rhaglen o waith gwella hanfodol, ac yn barod i groesawu cwsmeriaid ar gyfer gwyliau’r haf.
Roedd cau’r pwll nofio dros dro wedi caniatáu cyflawni amrywiaeth o welliannau, gan gynnwys gosod teils newydd yn ardal y pwll nofio, adnewyddu’r ystafelloedd newid i fenywod drwy osod teils newydd ar y llawr, gosod boeleri dros dro, a gwneud gwaith addurno cyffredinol yn y cyfleuster drwyddo draw. Yn ystod yr wythnosau nesaf, mae disgwyl gosod loceri newydd, dodrefn yn yr ystafelloedd newid a boeleri parhaol, gan gwblhau’r rhaglen waith. Bydd y gwelliannau hyn yn gwella dibynadwyedd hirdymor, effeithlonrwydd a phrofiad cyffredinol cwsmeriaid yn y ganolfan hamdden.
Mae’r buddsoddiad yn ategu Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol 2019–2029 y Cyngor, sy’n anelu at ddarparu cyfleusterau hamdden cynaliadwy o ansawdd uchel sy’n annog mwy o drigolion i fod yn egnïol.
Tra oedd y pwll nofio ar gau, roedd oriau agor estynedig ar waith ym mhwll nofio Canolfan Hamdden Cefn Fforest, gan ddarparu cyfleoedd nofio ychwanegol i gwsmeriaid. Bydd yr oriau agor arferol yn ailgychwyn o ddydd Sadwrn ymlaen.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Hamdden, “Rydyn ni’n falch iawn o ailagor pwll nofio Canolfan Hamdden Trecelyn a chroesawu cwsmeriaid yn ôl ar gyfer gwyliau’r haf. Mae’r amser ychwanegol i gwblhau’r gwelliannau hanfodol hyn wedi caniatáu i ni gyflawni rhaglen gynhwysfawr o waith a fydd yn gwella dibynadwyedd ac effeithlonrwydd hirdymor y cyfleuster, a hefyd wella’r profiad i’n cwsmeriaid. Hoffwn i ddiolch i bawb am eu hamynedd a’u dealltwriaeth wrth i’r gwaith hwn gael ei gwblhau.”
Bydd gwersi nofio yn ailgychwyn o ddydd Mawrth 28 Gorffennaf ymlaen. Rydyn ni’n annog cwsmeriaid i edrych ar yr amserlenni nofio diweddaraf ar wefan neu ap Dull Byw Hamdden cyn ymweld.