Partïon Pŵll Canolfan Hamdden Cefn Fforest

Mae partïon pwll nofio yn boblogaidd iawn yng Nghanolfan Hamdden Cefn Fforest, rydym yn cynnig fflotiau a nwyddau gwynt bach yn y ddau bwll neu fflotiau mewn pwll bach a thegan mawr gwynt yn y prif bwll. Bydd yr holl westeion mewn dwylo diogel gydag amgylchedd wedi’i oruchwylio’n llawn, ar ôl eich nofio gallwch gynnal eich parti yn yr ardal wylio (hunan darpar).

Mae partïon pwll ar gael dydd Sul 1:30pm – 3:00pm (45 munud yn y pwll, 45 munud yn yr ardal wylio)

Mae partïon pwll yn costio £62.00 – uchafswm o 30 o westeion

Cysylltwch â’r ganolfan am fwy o wybodaeth – 01443 830567 neu e-bostiwch lccefn@caerffili.gov.uk

*Dyfnder Pwll Bach 0.9m